Amdanom Ni

Sefydlwyd Cwmni CELyn yn 2017 gan Caryl Elin Lewis.  Mae’r Cwmni wedi’i leoli yng Ngwynedd ac rydym yn falch o’n gallu i gynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog i gwsmeriaid.

Mae’r Cwmni yn darparu gwasanaethau ar gyfer sefydliadau yn y sector gyhoeddus, wirfoddol a phreifat ar draws ystod o feysydd polisi, gan gynnwys:

  • Gofal Cymdeithasol
  • Iechyd a Llesiant
  • Datblygu Economaidd
  • Datblygu Cymunedol
  • Plant a Phobl Ifanc

Rydym yn arbenigo mewn:

  • Rheoli Prosiectau
  • Rheoli Newid
  • Cynllunio Strategol
  • Ymchwil, Gwerthusiadau ac Adolygiadau
  • Ymgysylltu, Cyfathrebu ac Ymgynghori
  • Gofal Cwsmer
  • Rheoli Cwynion ac Ymchwiliadau Cwynion
  • Llywodraethu Gwybodaeth a Diogelu Data
  • Cefnogaeth Busnes
  • Hyfforddiant mewn amrediad o bynciau

Mae Ymgynghoriaeth Reoli yn ymwneud a helpu pobl a sefydliadau i ddatrys problemau, gwella eu perfformiad neu weithredu menter newydd.  Ein nod ydy cefnogi sefydliadau bach a mawr i gyflawni, llwyddo a gwneud gwahaniaeth.

Rydym yn credu’n gryf fod rheoli newid yn greiddiol i lwyddiant unrhyw brosiect.  Mae prosiectau yn methu neu’n wynebu oediad sylweddol o ganlyniad i reoli newid gwael.  Gall prosiect sy’n ceisio darparu gwasanaeth neu gynnyrch newydd gael ei gwblhau ar amser ond methu a chyflawni’r nod ac amcanion.  Er enghraifft, gall system newydd TG gael ei osod erbyn y dyddiad targed a gweithio’n wych, ond mae’n ddi-werth os ydy’r staff yn gwrthod ei ddefnyddio.  Mae hyn oherwydd nad yw’r sefydliad wedi rhoi digon o ystyriaeth i’r elfen pobl, eu cynnwys yn y prosiect a rheoli’r newid yn effeithiol.  O’r dechrau i’r diwedd, rhaid cynnwys y defnyddwyr, fel arall bydd y prosiect yn methu.  Pobl yw’r elfen bwysicaf un os am sicrhau llwyddiant prosiect!

“Change Management can become more successful with people at the core of change, the cause of changes and the purpose of change.”

Pearl Zhu, CIO Master: Unleash the Digital Potential of It

Mae gan Gwmni CELyn y gallu i’ch cefnogi beth bynnag eich anghenion.  Mae ein gwasanaeth yn un rhagweithiol, ymarferol a proffesiynol ac rydym yn hawdd iawn i weithio gyda.  Mae gennym nifer o Gymdeithion ac rydym yn gallu tynnu eu harbenigeddau i mewn pan fo angen.

Caryl

Mae Cwmni CELyn yn cael ei redeg gan Caryl Elin Lewis.

Mae gan Caryl flynyddoedd o brofiad o gynllunio ac arwain prosiectau ar draws wahanol feysydd.  Ynghyd a sgiliau rheoli prosiect, mae ei phrofiad yn cynnwys datblygu a chyflwyno hyfforddiant, rheoli newid, cynllunio strategol, rheolaeth gyffredinol, rheoli pobl a rheoli cyllid.  Mae Caryl yn meddu ar sawl cymhwyster ac yn eu defnyddio i gyflwyno gwelliannau i gleientiaid a’i sefydliadau.  Mae hi’n Ymarferwr Rheoli Prosiect Prince 2, Diogelu Data ac yn dal sawl cymhwyster proffesiynol gan gynnwys Gradd B.A. (Anrhydedd) Busnes a Pholisi Cymdeithasol, M.A. Rheoli Newid, ILM Arwain a Rheoli Tîm a Chymhwyster Ôl-raddedig mewn Datblygu Cymuned.

Mae Caryl yn cyfrannu llawer at y gymuned leol ac yn codi arian at elusennau amrywiol yn rheolaidd.  Mae ganddi brofiad helaeth o lunio ceisiadau grant llwyddiannus, mae’n aelod o sawl grŵp, Cadeirydd y Cylch Meithrin lleol ac yn Gyfarwyddwr Gwirfoddol Mudiad Ysgolion Meithrin Cymru.

Ynghyd a 15 mlynedd o weithio yn llwyddiannus gyda chymunedau, Awdurdodau Lleol, Cynghorau Tref a Chymuned, Busnesau, Byrddau Iechyd, y trydydd sector a sawl asiantaeth arall, mae Cwmni CELyn yn gallu cefnogi eich sefydliad beth bynnag eich anghenion.